#
Briff Ymchwil
Mae'r papur hwn yn cynnwys gwybodaeth gefndirol ar sut mae'r cofrestrau o lobïwyr yn gweithio yn Iwerddon a Senedd Ewrop. Gofynnwyd am y papur briffio hwn yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor â Chofrestrydd Cofrestr y Lobïwyr Ymgynghorol y DU (Alison Joy White) a Chofrestrydd Lobïo yr Alban (Billy McLaren). |
Iwerddon
Ym mis Mawrth 2015, cafodd Deddf Rheoleiddio Lobïo 2015 (y Ddeddf) ei llofnodi yn gyfraith gan Arlywydd Iwerddon. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer: sefydlu cofrestr o bersonau sy'n gwneud gweithgareddau lobïo; cod ymddygiad i wneud gweithgareddau lobïo; a chyfyngiadau ar rai cyn-swyddogion cyhoeddus dynodedig i gymryd rhan mewn lobïo.
Gweinyddu'r gofrestr
Caiff y Gofrestr Lobïo ei gweinyddu a'i chynnal gan y Comisiwn Safonau mewn Swyddi Cyhoeddus, corff annibynnol o dan gadeiryddiaeth cyn farnwr yr Uchel Lys. Rôl y Comisiwn yw: gweithredu fel Cofrestrydd ar gyfer Lobïo; datblygu a goruchwylio'r gofrestr gyhoeddus ar y we; delio â materion ar gyfer penderfynu; gweithredu'r cod ymddygiad; darparu canllawiau a hyrwyddo dealltwriaeth o'r system; ymarfer pwerau i ymchwilio; cyhoeddi hysbysiadau talu sefydlog ar gyfer mân achosion o ddiffyg cydymffurfio; gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau ar gyfer achosion arwyddocaol o diffyg cydymffurfio; a darparu Adroddiad Blynyddol i'r Oireachtas.
Sefydliadau sydd angen cofrestru
Mae'n rhaid i sefydliadau gofrestru os ydynt yn gwneud gweithgareddau lobïo. Pennir hyn drwy ganfod: a yw'r sefydliad yn cyfathrebu naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gyda “Swyddog Cyhoeddus Dynodedig” ynghylch “mater perthnasol[1]” ac a yw'r sefydliad yn un o'r canlynol:
§ Trydydd parti sy'n cael ei dalu am gyfathrebu ar ran cleient (lle mae'r cleient yn gyflogwr o fwy na 10 cyflogai llawn amser neu'n gorff cynrychioliadol neu'n gorff eirioli sydd ag o leiaf un cyflogai llawn amser);
§ Cyflogwr sydd â mwy na 10 cyflogai lle gwneir y gwaith cyfathrebu ar ei ran;
§ Corff cynrychioliadol gydag o leiaf un cyflogai yn cyfathrebu ar ran ei aelodau a bod y cyfathrebu yn cael ei wneud gan gyflogai a delir neu ddeiliaid swydd sy'n rhan o'r corff;
§ Corff eirioli gydag o leiaf un cyflogai sy'n bodoli'n bennaf i ymdrin â materion penodol a bod cyflogai cyflogedig neu ddeiliad swydd yn y corff yn cyfathrebu ar faterion o'r fath;
§ Unrhyw berson sy'n cyfathrebu ynghylch datblygu neu barthau tir.
At ddibenion y Ddeddf, rhestrir Swyddogion Cyhoeddus Dynodedig fel a ganlyn: Gweinidogion a Gweinidogion Gwladol; TDs (Teachta Dála) a Seneddwyr; ASEau ar gyfer etholaethau; Aelodau o Awdurdodau Lleol; Cynghorwyr Arbennig; Ysgrifenyddion Cyffredin ac Ysgrifenyddion Cynorthwyol yn y Gwasanaeth Sifil; a Phrif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau mewn Awdurdodau Lleol
“Mater perthnasol” yw un sy'n ymwneud â'r canlynol:
§ Cychwyn, datblygu neu addasu unrhyw bolisi cyhoeddus neu unrhyw raglen gyhoeddus;
§ Paratoi neu ddiwygio unrhyw gyfraith (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth fel offerynnau statudol ac is-ddeddfau); neu
§ Dyfarnu unrhyw grant, benthyciad neu gymorth, contract neu gytundeb ariannol arall, neu unrhyw drwydded neu awdurdod arall yn ymwneud ag arian cyhoeddus[2].
Mae nifer o “gyfathrebu wedi'u heithrio neu esemptio” nad ydynt yn cael eu hystyried yn weithgareddau lobïo:
§ Materion preifat: Cyfathrebu gan neu ar ran unigolyn sy'n ymwneud â'i faterion preifat ei hun ynghylch unrhyw fater heblaw am ddatblygiad neu barthau unrhyw dir heblaw am brif breswylfa preifat yr unigolyn;
§ Cysylltiadau diplomyddol: Cyfathrebu gan neu ar ran gwlad neu diriogaeth dramor, yr Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig neu sefydliadau rhynglywodraethol rhyngwladol eraill;
§ Gwybodaeth ffeithiol: Cyfathrebu sy'n gofyn am wybodaeth ffeithiol neu'n darparu gwybodaeth ffeithiol mewn ymateb i gais am y wybodaeth;
§ Cyflwyniadau wedi'u cyhoeddi: Cais cyfathrebu gan gorff gwasanaeth cyhoeddus ac wedi'i gyhoeddi ganddo;
§ Trafodaethau undeb llafur: Cyfathrebu sy'n ffurfio rhan neu'n ymwneud yn uniongyrchol â thrafodaethau ar delerau ac amodau cyflogaeth a wnaed gan gynrychiolwyr undeb llafur ar ran ei haelodau;
§ Diogelwch: Cyfathrebu datgeliad a allai fod yn fygythiad i ddiogelwch unrhyw berson neu ddiogelwch y Wladwriaeth;
§ Pwyllgorau Oireachtas: Cyfathrebu a wneir yn nhrafodion pwyllgor naill Dŷ'r Oireachtas;
§ Cyfathrebu gan Swyddogion Cyhoeddus Dynodedig neu weision cyhoeddus: Cyfathrebu gan swyddog cyhoeddus dynodedig yn rhinwedd ei swydd; cyfathrebu gan weision cyhoeddus (neu'r rhai sy'n rhan o gontract gan gorff gwasanaeth cyhoeddus) a wnaed yn y swydd honno ac yn ymwneud â swyddogaethau'r corff gwasanaeth cyhoeddus;
§ Llywodraethu Cyrff Gwladwriaeth Masnachol: Cyfathrebu gan neu ar ran corff gwladwriaeth masnachol i Weinidog sy'n dal cyfranddaliadau mewn, neu sydd â swyddogaethau statudol yn ymwneud â, y corff, neu'r swyddogion cyhoeddus dynodedig sy'n gwasanaethu yn adran y Gweinidog, ac a wneir yn nhrefn arferol busnes y corff;
§ Gweithgorau polisi: Cyfathrebu rhwng aelodau o gorff perthnasol a benodwyd gan Weinidog, neu gan gorff gwasanaeth cyhoeddus, at ddibenion adolygu, asesu neu ddadansoddi unrhyw fater o bolisi cyhoeddus gyda'r bwriad o adrodd i'r Gweinidog neu'r corff gwasanaeth cyhoeddus ar hynny.
Y Gofrestr
Mae'r gofrestr lobïo yn gofrestr gwybodaeth gyhoeddus ar y we. Ni chodir tâl i sefydliadau/unigolion gofrestru. Ar adeg ysgrifennu, mae 1,620 o sefydliadau/unigolion wedi cofrestru. Mae angen i gofrestryddion ddarparu’r wybodaeth ganlynol ar y gofrestr:
§ Enw'r sefydliad;
§ Cyfeiriad a manylion cyswllt y busnes;
§ Prif weithgareddau'r busnes ;
§ Enw'r person sydd â'r cyfrifoldeb pennaf dros lobïo;
§ Rhif Swyddfa Cofrestru’r Cwmni/Rhif Cofrestru'r Elusen.
Mae gofyn i gofrestryddion lenwi ‘ffurflenni’ i gofnodi'r gweithgareddau lobïo. Mae tri chyfnod ffurflenni y flwyddyn gyda dyddiadau cau penodol (1 Medi - 31 Rhagfyr): dychwelyd ffurflenni erbyn 21 Ionawr / I Ionawr - 30 Ebrill: dychwelyd ffurflenni erbyn 21 Mai / 1 Mai - 31 Awst: dychwelyd ffurflenni erbyn 21 Medi). Rhaid i bob ffurflen gynnwys gwybodaeth am bwy gafodd ei lobïo; mater pwnc y lobïo a'r canlyniadau a fwriadwyd; math a graddau'r gweithgaredd; enw unrhyw berson yn y sefydliad sydd neu oedd y swyddog dynodedig ac a wnaeth y gweithgareddau lobïo; gwybodaeth am y cleient (os yn berthnasol).
Torri rheolau a sancsiynau
Mae Rhan 4 o'r Ddeddf yn ymdrin â thorri rheolau a gorfodi. Mae sawl achos o dorri rheolau:
§ Lobïo heb gofrestru;
§ Methu â chyflwyno ffurflen erbyn y dyddiad cau (gan gynnwys 'cofnod dim / nil return');
§ Darparu gwybodaeth anghywir/camarweiniol;
§ Methu â chydymffurfio ag ymchwiliad;
§ Rhwystro ymchwiliad.
Mae'r canlyniadau o beidio â chydymffurfio â'r Ddeddf yn cynnwys hysbysiadau talu sefydlog (ar gyfer ffurflenni hwyr), ymchwilio i dorri rheolau posibl, erlyn, a dirwyon a/neu garchar.
Yn ogystal, mae cyfyngiadau ar ôl cyflogaeth ar gyfer rhai swyddogion cyhoeddus.
Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd
Sefydlwyd y Gofrestr Tryloywder fel cynllun ar y cyd rhwng Senedd Ewrop (SE) a'r Comisiwn Ewropeaidd (CE) yn 2011 drwy Gytundeb Rhyngsefydliadol (CRS). Mae'r gofrestr yn gymwys i bob grŵp â diddordeb sy'n gwneud gweithgareddau sydd â'r nod o ddylanwadu ar brosesau deddfu a gweithredu polisïau yn sefydliadau'r UE. Mae cwmpas y gofrestr yn cynnwys pob gweithgaredd (gyda rhai eithriadau[3]) a wnaed gyda'r nod o ddylanwadu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar lunio neu weithredu polisi a phrosesau penderfynu yn sefydliadau'r UE, waeth ble cânt eu gwneud a'r sianel neu'r cyfrwng cyfathrebu a ddefnyddiwyd.
Mae'r Cytundeb Rhyngsefydliadol rhwng Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn nodi'r rheolau a'r egwyddorion y mae'r Gofrestr Tryloywder yn seiliedig arnynt. Cafodd y Cytundeb cyntaf (a lofnodwyd ym mis Mehefin 2011) ei adolygu ar ôl dwy flynedd. Cafodd y Cytundeb diwygiedig ei fabwysiadu ym mis Ebrill 2014.
Y Gofrestr
Mae'r gofrestr yn wirfoddol ar hyn o bryd, ond mae cynlluniau i'w gwneud yn orfodol. Mae'n adnodd chwiliadwy sydd ar gael yn gyhoeddus ac nid oes ffi i gofrestru. Mae nifer o gymhellion y gellir eu cynnig gan Senedd Ewrop i annog cofrestryddion i gofrestru:
§ Hwyluso mynediad i'r safle, ei Aelodau a'u cynorthwywyr, ei swyddogion a staff eraill;
§ Awdurdod i drefnu neu gyd-gynnal digwyddiadau ar y safle;
§ Trosglwyddo gwybodaeth yn haws, gan gynnwys rhestrau postio penodol;
§ Cymryd rhan fel siaradwyr mewn gwrandawiadau pwyllgor;
§ Nawdd gan Senedd Ewrop.
Gall y cymhellion a gynigir gan y Comisiwn Ewropeaidd i gofrestryddion gynnwys:
§ Mesurau mewn cysylltiad â throsglwyddo gwybodaeth i gofrestryddion wrth lansio ymgynghoriad cyhoeddus;
§ Mesurau mewn perthynas â grwpiau arbenigol a chyrff cynghori eraill;
§ Rhestrau postio penodol;
§ Nawdd gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Ar adeg ysgrifennu, mae 11,216 o unigolion cofrestredig ar y gofrestr. Mae dadansoddiad o'r sefydliadau yn Nhabl 1 isod.
Tabl 1: Ystadegau ar gyfer y Gofrestr Tryloywder (Europa.eu)
Ymgynghoriaethau proffesiynol /cwmnïau cyfreithiol/ymgynghorwyr hunangyflogedig |
1301 |
Lobïwyr mewnol a chymdeithasau masnach/busnes/proffesiynol |
5563 |
Sefydliadau anllywodraethol |
2932 |
Melinau trafod, sefydliadau ymchwil ac academaidd |
838 |
Sefydliadau sy'n cynrychioli eglwysi a chymunedau crefyddol |
48 |
Sefydliadau sy'n cynrychioli awdurdodau lleol, rhanbarthol a threfol, endidau cyhoeddus neu gymysg eraill, ac ati |
534 |
Cyfanswm |
11216 |
Gweinyddu'r gofrestr
Mae Ysgrifenyddiaeth y Cyd-gofrestr Tryloywder (JTRS) yn cynnwys tîm o swyddogion o Senedd Ewrop (SE) a'r Comisiwn Ewropeaidd (CE). Mae'n gweithredu o dan gydgysylltiad Pennaeth yr Uned Tryloywder yn Ysgrifenyddiaeth Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd gyda Chyngor Ewrop fel arsylwr. Y JTRS sy'n gyfrifol am reoli'r system o ddydd i ddydd; mae'n cynnig gwasanaethau desg gymorth, yn cyhoeddi ac yn diweddaru canllawiau ar gyfer cofrestru, yn cynnal profion ansawdd data, yn ymdrin â rhybuddion a chwynion a ddaw i law, yn cydlynu gwaith datblygu a chynnal TG ac yn gwneud gweithgareddau codi ymwybyddiaeth. Mae'r Ysgrifenyddiaeth yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar y Gofrestr Tryloywder, ei chynnwys a'r ffordd y caiff ei datblygu.
Gwybodaeth am y cofrestryddion
Mae'n rhaid i gofrestryddion ddarparu ystod eang o wybodaeth:
§ Enw'r sefydliad neu'r unigolyn hunangyflogedig;
§ Adran cofrestru (math o sefydliad yn ôl categori);
§ Manylion cyswllt;
§ Manylion y person sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol a'r person sy'n gyfrifol am gysylltiadau UE;
§ Nodau/cylch gwaith y sefydliad;
§ Manylion y gweithgareddau penodol a gwmpesir yn y gofrestr (e.e. prif mentrau, polisïau a ffeiliau deddfwriaethol yr UE ac yna gweithgareddau gweithredu polisi, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu perthnasol/cyfranogiad yn strwythurau a llwyfannau yr UE/grwpiau lefel uchel (CE)/pwyllgorau ymgynghorol/grwpiau arbenigol (CE), rhyng-grwpiau a fforymau diwydiant (SE);
§ Nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau a restrir yn y pwynt bwled blaenorol;
§ Manylion y bobl a achredwyd i gael mynediad i safle Senedd Ewrop;
§ Meysydd o ddiddordeb;
§ Aelodaeth a ymlyniad;
§ Data ariannol (gan gynnwys amcangyfrif o'r costau blynyddol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau a gwmpesir gan y gofrestr, a'r wybodaeth ariannol ddiweddaraf ynghylch arian a gafwyd gan sefydliadau'r UE).
Drwy gofrestru, mae sefydliad wedi llofnodi Cod Ymddygiad y Gofrestr Tryloywder yn awtomatig, sy'n pennu rheolau i bawb sy'n cofrestru ac sy'n sefydlu egwyddorion sylfaenol ar gyfer safonau ymddygiad ym mhob cysylltiad â sefydliadau'r UE.
Torri rheolau a sancsiynau
Mae'r Cytundeb Rhyngsefydliadol yn pennu ystod o fesurau sydd ar gael i'r JTRS mewn achos o ddiffyg cydymffurfio â'r cod ymddygiad. Mae crynodeb yn Nhabl 2 isod.
Tabl 2: Mesurau sydd ar gael mewn achos o ddiffyg cydymffurfio â'r cod ymddygiad(o'r Cytundeb Rhyngsefydliadol)
Math o ddiffyg cydymffurfio |
Mesur |
Cyhoeddi mesur yn y gofrestr |
Penderfyniad ffurfiol i wahardd mynediad i eiddo Senedd Ewrop |
Diffyg cydymffurfio, wedi'i gywiro ar unwaith |
Hysbysiad ysgrifenedig yn cydnabod y ffeithiau a'u cywiro. |
Na |
Na |
Dim cydweithrediad â'r JTRS |
Tynnu enw oddi ar y gofrestr, tynnu awdurdod i gael mynediad i SE a cholli cymhellion eraill. |
Na |
Na |
Ymddygiad amhriodol |
Tynnu enw oddi ar y gofrestr, tynnu awdurdod i gael mynediad i SE a cholli cymhellion eraill. |
Na |
Na |
Diffyg cydymffurfio dro ar ôl tro ac yn fwriadol neu ymddygiad amhriodol sawl gwaith a/neu achos difrifol o ddiffyg cydymffurfio |
a. Tynnu enw oddi ar y gofrestr am flwyddyn, a thynnu awdurdod i gael mynediad i safle SE yn ffurfiol b. Tynnu enw oddi ar y gofrestr am ddwy flynedd, a thynnu awdurdod i gael mynediad i safle SE yn ffurfiol
|
Ie, yn ôl penderfyniad Ysgrifenyddion Cyffredinol SE a CE. |
Ie, yn ôl penderfyniad Coleg y Quaestors. |